Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017

Amser: 09.33 - 11.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4415


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Suzy Davies AC (yn lle Angela Burns AC)

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Simon Dean, Llywodraeth Cymru

Alan Brace, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC, Julie Morgan AC ac Angela Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Angela Burns AC.

 

</AI1>

<AI2>

2       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - sesiwn dystiolaeth 1 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a'u swyddogion.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor i egluro a yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn caniatáu cyfuno o ffynonellau eraill mewn ffordd debyg i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

2.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor yn amlinellu'r cynigion y mae wedi eu cymeradwyo ynghylch sut y bydd byrddau iechyd yn defnyddio'r buddsoddiad ychwanegol i leihau amserau aros.

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i’w nodi

</AI3>

<AI4>

3.1   Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

</AI4>

<AI5>

3.2   Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

</AI5>

<AI6>

3.3   Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

3.3a ​​Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol mewn perthynas â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

</AI6>

<AI7>

3.4   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch  amseroedd aros canser

3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon o ran amseroedd aros canser.

</AI7>

<AI8>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI8>

<AI9>

5       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - Trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>